#

Y Pwyllgor Deisebau | 11 Gorffennaf 2017

Petitions Committee | 11 July 2017

 

 

 

Deiseb: P-05-767 Cefnffordd yr A487 drwy Dre Taliesin

 

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-767

Teitl y ddeiseb: Cefnffordd yr A487 drwy Dre Taliesin: angen brys am fesurau effeithiol i arafu traffig

Testun y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gyflwyno mesurau effeithiol i arafu traffig ar hyd cefnffordd yr A487 sy’n dirwyn yn uniongyrchol drwy ganol pentrefi cyfagos Tre Taliesin a Thre’r Ddôl, ac i ymgynghori â’r trigolion sy’n byw yn y pentrefi hyn a cheisio’u barn.

Yr A487 yw’r brif gefnffordd rhwng y gogledd a’r de ac mae’n dirwyn ar hyd arfordir gorllewin Cymru. Mae nifer fawr a chynyddol o gerbydau sy’n goryrru a thraffig nwyddau trwm yn teithio ar hyd y gefnffordd hon drwy ganol pentrefi cul Tre Taliesin a Thre’r Ddôl yng Ngheredigion. Ddiwedd 2016, ffurfiwyd Grŵp Gweithredu Taliesin A487 gan y pentrefwyr. Mae’r grŵp gweithredu lleol wedi cyfarfod a chyfathrebu’n agos â Chyngor Cymuned Llangynfelyn, Heddlu Dyfed Powys, Cyngor Sir Ceredigion a’r Aelod Seneddol lleol i gynnal dadansoddiad o’r problemau a’r atebion posibl. Mae’r grŵp hefyd wedi mynegi’i bryderon wrth Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd-orllewin Cymru, ac wedi cynnig cyfarfod â hi i gyfleu eu safbwyntiau, ond ni dderbyniwyd y gwahoddiad hyd yma.

Mae’n bwysig bod llais pentrefwyr sy’n byw o ddydd i ddydd gyda thraffig sy’n goryrru yn cael ei glywed a bod Llywodraeth Cymru yn ystyried eu safbwyntiau’n llawn, er mwyn i fesurau arafu traffig effeithiol, sy’n diogelu pentrefwyr a defnyddwyr y ffordd, gael eu cynllunio a’u rhoi ar waith.

Cefndir

O dan Ddeddf Priffyrdd 1980 Llywodraeth Cymru yw’r awdurdod priffyrdd ar gyfer y rhwydwaith cefnffyrdd a thraffyrdd yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys yr A487 y mae’n ei disgrifio fel, "cefnffordd fawr yng Ngorllewin Cymru" sy’n cysylltu Bangor yn y gogledd, â Hwlffordd yn y de. Fel yr awdurdod priffyrdd sy’n gyfrifol am gynnal a chadw cefnffyrdd a thraffyrdd, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda dau asiant cefnffyrdd, sef Asiant Cefnffyrdd De Cymru (SWTRA) ac Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (NMWTRA), i reoli, cynnal a chadw a  gwella’r rhwydwaith.

Ffigur 1 Ffyrdd a gaiff eu cynnal gan SWTRA a NMWTRA ar ran Llywodraeth Cymru. Ffynhonnell: Gwefan Llywodraeth Cymru [fel ar 26 Mehefin 2017]

 O ran yr A487, mae Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru yn datgan :

Mae’r A487 yn cario lefelau sylweddol o Gerbydau Nwyddau Trwm gydol y flwyddyn a thraffig twristiaid trwm yn ystod cyfnod yr haf a thraffig cymudwyr mewn ardaloedd lleol. Mae’r A487 yn darparu coridor ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus, gwasanaethu’r trefi a’r pentrefi cyfagos, busnesau gwledig, ysgolion a gweithgareddau hamdden.

Safon ffordd sengl sydd i’r rhan fwyaf o goridor yr A487

Mae’r Sefydliad Diogelwch ar y Ffyrdd yn elusen ar gyfer lleihau nifer yr anafiadau ar ffyrdd y DU, ac mae’n bartner i’r Rhaglen Asesu Ffyrdd Ewrop (EuroRAP), sy’n gymdeithas ryngwladol ddi-elw i hybu ffyrdd sy’n fwy diogel. Mae’r Sefydliad Diogelwch ar y Ffyrdd yn cyhoeddi adroddiadau blynyddol ar ganlyniadau diogelwch ar y ffyrdd EuroRAP Prydain, gan gynnwys mapiau risg manwl. Mae adroddiadau o’r gorffennol, fel y rhai ar gyfer 2013 , 2014 a 2015, ar gael ar wefan y Sefydliad. Mae’r mapiau risg yn darparu graddau risg sy’n dangos y "risg ystadegol o farwolaeth neu anaf difrifol" i ddigwydd ar ein ffyrdd. Wrth sôn am ei fethodoleg o ran cyfrifo risgiau, mae’r Sefydliad yn nodi:

The risk is calculated by comparing the frequency of road crashes resulting in death and serious injury on every stretch of road with how much traffic each road is carrying. For example, if there are 20 crashes on a road carrying 10,000 vehicles a day, the risk is 10 times higher than if the road has the same number of collisions but carries 100,000 vehicles.

Yn 2013, roedd y gyfradd risg a nodwyd gan y Sefydliad ar gyfer yr adran o’r A487 sy’n cynnwys y ffordd o Daliesin i Dre’r Ddol wedi’i asesu fel risg canolig (yn seiliedig ar ddata 2007-2011). Yn 2014, cynyddodd y gyfradd i risg canolig i uchel (data 2010-2012) ac roedd yr asesiad diweddaraf, yn 2015, yn nodi bod y ffordd hon ar lefel risg canolig (data 2011-2013).

 

Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Roedd Fframwaith Diogelwch Ffyrdd Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd yn 2013, yn nodi targedau diogelwch ffyrdd y Llywodraeth a’r camau gweithredu cysylltiedig.  Mae Llywodraeth Cymru am weld yr ystadegau canlynol ar gyfer holl ffyrdd Cymru erbyn 2020, o’u cymharu â’r cyfartaledd ar gyfer 2004-2008:

§    40 y cant yn llai yn cael eu lladd a’u hanafu’n ddifrifol ar ffyrdd Cymru;

§    25 y cant yn llai o feicwyr modur yn cael eu lladd a’u hanafu’n ddifrifol ar ffyrdd Cymru; a

§    40 y cant yn llai o bobl ifanc (16-24 mlwydd oed) yn cael eu lladd a’u hanafu’n ddifrifol ar ffyrdd Cymru.

Mae Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i “gyflawni’r canlyniadau sydd wedi’u cyflwyno yn Strategaeth Drafnidiaeth Cymru” hyd at 2020 a thu hwnt, gan gyflawni’r rhaglen o Welliannau Diogelwch Ffyrdd ar gyfer Llwybrau Diogel i Ysgolion ar Gefnffyrdd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi adolygu’r terfynau cyflymder ar y rhwydwaith cefnffyrdd, gan ystyried natur y ffordd, diogelwch y ffordd a’r defnydd a wneir ohoni gan y gymuned. Gwnaed hyn yn unol â’i chanllawiau ar Bennu Terfynau Cyflymder Lleol yng Nghymru (PDF 197KB), a ddefnyddir i osod pob terfyn cyflymder lleol ar gefnffyrdd a ffyrdd gwledig (heb gynnwys traffyrdd) mewn ardaloedd trefol a gwledig.

Manylir ar ganlyniad yr adolygiad hwn ar y wefan Adolygu Diogelwch Cefnffyrdd. Nodir ar y wefan bod diogelwch ar gefnffyrdd yn cael ei fonitro’n barhaus i chwilio am unrhyw welliannau posibl y gellir eu gwneud, a bod terfynau cyflymder yn cael eu hadolygu’n gyson.

Ar gyfer y rhan o’r ‘A487 40mya yn dechrau’n Nhaliesin at ddiwedd y 40mya Tre’r Ddol’, roedd yr adolygiad yn dod i’r casgliad y dylai’r terfynau cyflymder presennol o 30 mya a 40 mya gael eu cadw, ac y dylai rhaglen weithredol o waith peirianyddol wedi’i blaenoriaethu a gwaith Llwybrau Diogel i Ysgolion ar Gefnffyrdd ddechrau yn 2017/18 ar y cynharaf.

Mewn diweddariad ysgrifenedig (PDF 192 KB) at holl Aelodau’r Cynulliad ar Lwybrau Diogel i Ysgolion ar Gefnffyrdd ym mis Hydref 2015, cadarnhaodd Edwina Hart, y Gweinidog dros yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth ar y pryd, bod gweithredu terfynau cyflymder 20 milltir yr awr yn rhan-amser mewn 41 o ysgolion ychwanegol wedi’i nodi fel rhan o raglen dreigl £4.5m y Llywodraeth dros dair blynedd. Roedd Ysgol Gynradd Llancynfelyn yn Nhaliesin yn un o’r ysgolion hyn, ac mae wedi’i rhestru fel blaenoriaeth ar gyfer 2017/18.

Mae’r llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith at y Cadeirydd ynghylch y ddeiseb hon yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi cael gohebiaeth ar y mater hwn gan y gymuned leol, yn mynegi’r pryderon sydd ganddi, a bod y mater wedi’i "gofnodi ar gyfer ei ystyried" fel rhan o’i waith parhaus. Aiff Ysgrifennydd y Cabinet ymlaen i nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn ymchwilio i fesurau diogelwch posibl ar gyfer yr A487 drwy Daliesin a Thre’r Ddol y flwyddyn ariannol hon, drwy gynnal arolwg cyflymder ac asesiad o’r amodau croesi i gerddwyr.

 

Camau gweithredu Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mewn ymateb i gwestiwn ar ddiogelwch cefnffyrdd (PDF 931 KB) yn dilyn digwyddiad ger Tre’r Ddol yn 2009, dywedodd Ieuan Wyn Jones, y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth ar y pryd:

Nid wyf mewn sefyllfa i roi ateb uniongyrchol ichi am y lleoliad penodol hwn. Yr wyf wedi gwrando’n astud ar y pwyntiau a godwyd gennych a byddaf yn ysgrifennu atoch i roi manylion y sefyllfa, gan ymateb i’ch pwyntiau am y ddamwain. Ar y cyfan, mae gan Gymru record dda o ran diogelwch ffyrdd. Bu bron inni gyrraedd pob un o’n targedau ar gyfer 2010, ac y mae hynny’n sefyllfa dda i fod ynddi, o edrych ymlaen at y targed diogelwch newydd ar gyfer 2020, ond byddwn bob amser yn ceisio gwella ar hynny.

Wrth ymateb i gwestiwn yn y Cyfarfod Llawn ar wella diogelwch ar y ffyrdd yng nghanolbarth a gorllewin Cymru ym mis Mawrth 2017 dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith,:

I’m keen to see more 20 mph zones introduced around schools. There is only so much that our financial resources can achieve through educating young people. Other measures must be introduced and I do believe that we should look at reducing the speed of motorists passing places of education. For the next financial year, as the Member has highlighted, we’ll be making available almost £4 million in road safety capital grants to fund 31 road casualty reduction schemes across 16 local authorities, and we’re also delivering schemes that are benefiting 21 schools across Wales. But I do think that we need to continue to roll out our Safe Routes to Trunk Road Schools programme, which is seeing a huge number of schools in areas that are adjacent to trunk roads have 20 mph limits introduced. In terms of the powers that are to come to the Welsh Assembly through the Wales Bill, at this moment we don’t have powers to set a national speed limit. But the Wales Bill will give us the power to vary the national speed limit on local and trunk roads, including special roads, and it will also give the National Assembly the ability to legislate on national speed limits. I am looking this year— the Member may be interested to know—at the speed limit review, which is a review that examines whether speed limits should be reduced in congested areas, especially where there are schools. I’m looking to update that this very year because, as I said, I think it’s imperative that we do reduce the speed at which vehicles are travelling outside and near schools.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.